Bywgraffiad        DEWI ELLIS JONES BMus MA PhD LRSM

Mae Dr Dewi Ellis Jones yn dod o Lanfairpwll, Ynys Môn ond bellach yn byw yn Y Bontnewydd. Graddiodd gyda BMus ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2001, ac yna dilyn gyda gradd MA, a diploma LRSM.

Mae wedi ennill Doethuriaeth mewn Perfformio a Cyfansoddi, ar ôl astudio gyda Simone Rebello, Dr Pwyll ap Sion a’r byd enwog Y Fonesig Evelyn Glennie.

Dewi yw unawdydd offerynnau taro llawn amser cyntaf Cymru ac mae’n brysur hefyd fel unawdydd gyda sawl cerddorfa a band. Ef yw prif offerynnwr taro Ensemble Cymru, ddaeth i’r rhestr fer yng Ngwobrau Cerddoriaeth y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2006

Mae’n diwtor yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac yn athro Offerynnau Taro yn y Brifysgol ym Mangor. Enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr, sef Medal Goffa Grace Williams, yn 2001 yng Ngŵyl yr Urdd. Derbyniodd Dewi ysgoloriaeth gan S4C i’w noddi a helpu datblygu ei dalent fel perfformiwr. Mae hefyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Môn a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

Mae Dewi yn briod ag Einir Wyn Hughes, sy'n delynores broffesiynol. Mae ganddynt ddwy ferch, Ela Non ac Anni Cêt.

Bywgraffiad - Rhestr Unawdau - Digwyddiadau - Offerynnau - Oriel - Ffyn - Disgiau - Lincs - Cysylltu
© Dewi Ellis Jones 2017